Mae Lleu yn gweld anghenfilod rhyfedd yr olwg ar y ddaear. Ydyn nhw'n dod o'r gofod?
Mae Heulwen am roi syrpreis i Lleu heddiw drwy addurno'r wybren gyda sêr lliwgar.
Mae Lleu yn cael trafferth mynd i gysgu. Tybed a fydd gan rai o anifeilaid y byd syniadau a all ei helpu?
Mae Huwlen a Lleu'n edrych am syniadau am y ffyrdd gorau o guddio.
Mae Lleu a'i ffrind gorau, Heulwen, yn gwylio mwncïod, adar a hyd yn oed moch gwyllt i gael gweld sut mae gwahanol anifeiliaid yn bwyta.
Mae Hulewen yn sylwi nad yw dringo mor hawdd ag yr oedd wedi ei dybio!
Chwarae tywysogion a thywysogesau sy'n mynd â bryd Heulwen a Lleu heddiw.
Mae cribau hyfryd rhai o anifeiliaid y byd yn rhoi syniad i Heulwen a Lleu ar gyfer chwarae.
Mae Heulwen a Lleu yn cwympo mas ond nid nhw yw'r unig rai. Mae'r anifeiliaid wrthi hefyd!
Heddiw, mae Heulwen a Lleu yn creu llanast wrth chwarae.
Mae Heulwen wrth ei bodd yn chwarae gyda'i doli fach ac ar ben ei digon yn dangos babanod byd natur wrth ei ffrind Lleu.
Mae gan Lleu ysfa i grafu ond mae'n methu'n lân â gwneud tan i Heulwen, a rhai o'r anifeiliaid yn cynnig syniadau.
Mae Heulwen a Lleu'n rhoi cynnig ar gêm newydd sbon - pysgota sêr!
Mae Heulwen a Lleu'n dysgu sut mae rhai anifeiliaid yn llwyddo i gadw'n gynnes pan mae'n oer.
Mae Lleu wrth ei fodd yn chwarae cuddio ond mae Heulwen yn llwyddo i ddod o hyd iddo bob tro!
Mae Heulwen a Lleu'n defnyddio binocwlars a thelesgop i weld pethau pell yn agos.
Mae'r ddau ffrind yn dysgu am y gwahanol ffyrdd mae anifeiliaid cyfeillgar y byd yn helpu ei gilydd.
Mae Lleu'n dysgu rhywbeth newydd am Heulwen heddiw: mae'n ofn dwr!
Mae Heulwen a Lleu'n edrych ar y mathau gwahanol o gartrefi sydd gan anifeiliaid, o gragen cranc i dwll pâl.
Mae Lleu wrthi'n brysur yn cyfri'r smotiau ar ei wyneb, ond yn cael trafferth gwneud.
Mae Heulwen yn brysur yn paentio pysgodyn streipiog heddiw.
Mae Heulwen wrthi'n brysur yn adeiladu nyth heddiw i rannu gyda'i ffrind gorau, Lleu, ond tybed pam?
Mae Lleu'n dangos i Heulwen eu bod yn ffrindiau pennaf drwy greu calon o gwmwl yn arbennig iddi hi.
Mae Heulwen a Lleu'n edrych ar anifeiliaid sydd â chyrn. Tybed pwy sydd â rhai a beth yw eu pwrpas?
Mae Heulwen a Lleu'n edrych am ysbrydoliaeth gan anifeiliaid y byd ar gyfer ffyrdd doniol a difyr o wisgo i fyny.
Mae Heulwen yn dysgu Lleu i ddawnsio, a hynny heb lawer o lwc. Tybed all rai o anifeiliaid y byd ddysgu symudiad neu ddau iddo?
Mae gan Lleu gêm newydd: chwarae môr ladron ond tybed pwy fydd yn cael ei ddewis i fod yn griw ar ei gwch.
Mae Heulwen a Lleu wedi diflasu ac yn chwilio am rywbeth i'w chwarae.
Mae gan Heulwen a Lleu ardd lysiau hyfryd. Dyma ble daw Heulwen o hyd i Lleu heddiw.
Mae Lleu'n teimlo'n sâl. Tybed a fedr nyrs Heulwen a'r anifeiliaid gwneud iddo deimlo'n well?
Sioe bypedau sy'n mynd â bryd Lleu heddiw. Mae ganddo'r llwyfan a'r pypedau, ond ddim stori.
Mae Heulwen am beintio llun ond yn methu'n lân â phenderfynu beth i'w baentio.
Heddiw mae Lleu am fod yn ddewin. Tybed all y dewin 'Lleu llaw fedrus' ddysgu Heulwen sut i greu swyn?
Mae'n ddiwrnod mabolgampau ac mae Lleu angen dewis ei gamp gydag ychydig o arweiniad gan yr anifeiliaid.
Tro Heulwen yw hi i baratoi te ac mae Lleu'n edrych ymlaen yn arw at bryd hyfryd.
Mae'r nen yn llawn patrymau amrywiol. Hoffai Lleu ychwanegu rhagor, ond pa batrwm fyddai orau?
Mae Heulwen yn credu bod ysbryd yn y nen, ond does dim y fath beth ag ysbrydion, nagoes?
Mae Heulwen wedi drysu'n lân. Mae wedi anghofio gwneud rhywbeth ond methu'n daer â chofio beth.
Mae Heulwen wrth ei bodd yn perfformio ac felly mae'n penderfynu cynnal sioe.
Mae Heulwen a Lleu eisiau adeiladu ffau ond yn cael trafferth dod o hyd i gynllun sy'n gweithio.
Mae Lleu yn paratoi parti pen-blwydd i Heulwen, ond yn cael trafferth ei gadw'n syrpreis!
Mae Heulwen a Lleu'n brysur yn gwneud dim byd ac ar ben eu digon yn ymlacio ar gadeiriau haul, yn yfed diodydd meddal.
Mae Lleu wedi dod o hyd i glogyn. Gyda'i bwerau arbennig, fe nawr yw 'Lleu'r Dewr'!
Wedi chwarae brwd, mae hoff degan Lleu, ei drên stem yn torri. Oes modd ei drwsio a'i wneud fel newydd eto?
Wrth chwarae, mae Lleu a'r planedau wedi creu llanast mawr sydd ddim yn plesio Heulwen o gwbl.
Mae Lleu wedi dod o hyd i'w focs gwisg ffansi, sy'n sbarduno gêm newydd sbon llawn hwyl a chwerthin!
Mae Lleu wedi penderfynu ei fod yn hen bryd iddo fynd ar wyliau, ond sut fath o wyliau fyddai'n plesio?
Mae Planed Glas ar dân eisiau chwarae gyda Heulwen a Lleu. Gyda'i help e, fe ddaw'r triawd lan â gêm newydd sbon.
Mae 'na fwystfil anarferol iawn wedi ymddangos ar y wybren ac mae'n llwyddo i godi ofn ar Heulwen.
Mae gan y ddau ffrind gêm newydd sbon o'r enw 'Gwna fel fi'. Hon yw hoff gêm yr anifeiliaid heddiw hefyd!