Cyfres ddrama newydd. Mae Maes Menai wedi mynd yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth cyffredin
Mae hi'n ddiwrnod pen-blwydd ar Keith ond does neb yn cymeryd sylw ohono, heblaw am Heather
Mae'r Gurkhas wedi eu siomi gan antics Keith a Heather ond mae Keith yn fwy pryderus wrth ddarganfod fod Stud am ei waed
Mae'r carnifal cwîn ar goll a phawb yn chwilio amdani. Dyw Mair ddim yn gwybod lle mae Gareth chwaith ac nid yw ei mab yn fodlon helpu
Mae Mair yn trio bod yn bositif ynglyn â'i sefyllfa, ond mae gan Gareth ei gynlluniau ei hun, a fydd yn debygol o wneud y sefyllfa yn waeth!
Mae Cheryl yn cael amser caled yn yr ysgol, ond mae Iws yn ffrind ffyddlon ac yn cynnig helpu.
Dyw Mair ddim yn hapus ei bod wedi colli ei thrwydded yrru, ond mae 'na waeth i ddod. Mae'r newyddion am feichiogrwydd Cheryl wedi teithio'n bell.
Mae Neil yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng pawb, ond yn teimlo ei fod o'n troi yn ei unfan
Ar ôl treulio'r noson gyda Stud, mae Heather yn gwybod y bydd rhaid iddi wynebu cwestiynau gan ei theulu
Heddiw yw diwrnod sgan cyntaf Cheryl ac mae'r nerfau yn fregus. A fydd Neil yn mynd gyda hi i'r ysbyty?
Gan mai heddiw yw diwrnod cyntaf Denise ar ôl y detox mae Neil wedi addo diwrnod i'r brenin iddi
Wynebau ffidil sydd gan y Gurkhas gan fod Heather a Keith o flaen eu gwell
Mae Neil mewn stad ac yn beio'i hun am farwolaeth Denise, ac er gwaethaf ymdrechion y teulu, does neb yn gallu ei gysuro
Mae Stud ar dân i ddarganfod pwy werthodd y cyffuriau i Denise, heb sylweddoli fod yr ateb dan ei drwyn
Caiff Heather drafferth i argyhoeddi'r teulu fod Stud yn ddieuog ond mae newyddion da ar y gorwel
Mae'r negeseuon text ffiaidd i Cheryl yn parhau. Yr unig beth sydd ar feddwl Neil ydi darganfod pwy yw tad babi Cheryl
Wedi iddi ddweud wrth Gareth mai ef yw tad ei babi, mae Cheryl am wneud iddo chwysu ymhellach
Mae Cheryl yn gandryll pan fo hi'n darganfod pwy anfonodd y negeseuon texts ati, a chaiff Linda'r pleser o ddial arno
Mae Rita mewn tymer ddrwg am bod ei chynllun dial wedi mynd i'r gwellt, ond dydi hi ddim yn brin o syniadau eraill
Ac yntau ar fin symud ty, mae Gareth yn addo peidio â gwneud yr un camgymeriadau eto, ond mae Mair yn ddall i'r gwir
Ar ôl ffraeo gyda Stud does gan Heather mo'r wyneb i fynd adref
Ar ôl iddi ddaganfod y reswm dros ffrae Heather a Stud, mae Carys yn wynebu Rita. Ond tydi ddim yn disgwyl ymateb mor ffyrnig
Mae Neil yn cael ei rybuddio gan yr heddlu i gadw'n glir oddi wrth Gareth. Cyn bo hir mae'r stad i gyd yn gwybod hanes y Gurkhas
Mae Gareth yn bwrw mlaen efo'i gynllun i gadw Cheryl yn swît ond mae pris i'w dalu